Deall sialensiau cyfalaf gweithio
Mae llif arian yn gallu bod yn annarogan i gwmnïau bach.
Gall costau annisgwyl, amrywiadau tymhorol, a sialensiau economaidd ehangach oll effeithio ar dwf busnes.
Gall busnes sy’n cael ei ariannu’n dda fod yn gallu gwrthsefyll sialensiau’r farchnad yn well, manteisio ar gyfleoedd i dyfu, gweithredu ar sail ariannol gadarn, a bod mewn gwell sefyllfa i wrthsefyll materion fel:
Cysondeb gweithredol
Mae angen arian ar gyfer gweithrediadau pob dydd, o dalu cyflogau i dalu biliau’r cyfleustodau.
Angen clustogi ariannol
Mae oedi’n gallu digwydd wrth dalu anfonebau, yn arbennig mewn trafodion B2B.
Amrywiadau tymhorol
Gall cyllid helpu i ddelio â chyfnodau tymhorol pan fo refeniw yn is nag arfer.
Rheoli rhestrau stoc
Gall fod ar adwerthwyr a gweithgynhyrchwyr angen cyllid i stocio'r eitemau ar y rhestrau stoc.
Buddsoddiadau oportiwnistaidd
Mae’r gallu i gyrchu cronfeydd yn caniatáu i fusnesau fanteisio ar gyfleoedd fel disgowntiau prynu swmp heb effeithio ar lif arian.
Rheoli dyledion
Mae cyllid yn gallu helpu i sicrhau bod dyledion neu rwymedigaethau ariannol sy’n ddyledus yn cael eu rheoli’n brydlon.
Ehangu
Boed yn agor cangen newydd neu’n lansio ymgyrch farchnata ffres, gall cyllid ychwanegol helpu i sicrhau bod modd bachu ar gyfleoedd i dyfu heb beryglu’r llif arian cyfredol.
Gwariant annisgwyl
Mae costau annisgwyl, fel cost trwsio offer diffygiol, yn gallu codi.
Cyllido rhestrau stoc
Sialens allweddol o ran llif arian yw pan fo angen i berchnogion busnes brynu’r rhestr stoc cyn y gallant ei werthu.
Mae’r cynhyrchion cyllid y gallai cyllid rhestrau stoc ei gynorthwyo’n cynnwys:
Cyllid archebion prynu
Mae busnesau bach yn gallu ei chael hi’n anodd cyflawni archeb fawr gan gwsmer am nad oes ganddyn nhw’r arian i dalu eu cyflenwr.
Dyma lle gallai cyllido archebion prynu (cyllido PO) helpu.
Y broses arferol ar gyfer cyllido PO yw, pan fo busnes wedi cael ei gymeradwyo gan ddarparydd cyllid, maen nhw’n derbyn yr arian ac yn ei ddefnyddio i dalu eu cyflenwr.
Ar ôl i’r cwsmer terfynol dderbyn yr archeb ac anfon anfoneb, bydd y darparydd cyllid yn casglu’r taliad gan y cwsmer, yn tynnu ei ffioedd, ac yn anfon y swm sy’n weddill at y busnes sydd wedi cyflawni’r archeb.
Yn wahanol i fathau eraill o gyllid, mae cyllid PO ar gael i fusnesau o bob maint, gan gynnwys busnesau newydd, busnesau cymharol newydd sy’n tyfu a busnesau llai.
Gall hyd yn oed busnesau â sgôr credyd isel neu hanes credyd cyfyngedig gyrchu cyllid POs am fod penderfyniad cymeradwyo fel arfer yn seiliedig ar ba mor ddibynadwy yw credyd y cwsmer terfynol.
Ond mae cyllido PO yn gallu bod yn opsiwn drud oherwydd mae darparwyr fel rheol yn codi ffi fisol o rhwng 1.8% a 6%.
Po hiraf y mae’ch cwsmer yn ei gymryd i dalu’r anfoneb, po fwyaf fydd y ffioedd y byddwch chi’n eu talu.
Dysgwch ragor am gyllid archebion prynu.
Cyfleusterau gorddrafft neu gredyd cylchol
Opsiynau hyblyg, byrdymor yw’r rhain sy’n caniatáu i fusnesau godi credyd pan fo angen.
Math o gredyd ar gyfrif banc eich busnes sy’n darparu arian ychwanegol ar gyfer y busnes yn ôl yr angen yw gorddrafft.
Mae gorddrafft yn codi llog ar swm y ddyled gorddrafft yn unig, yn wahanol i fenthyciadau sy’n gofyn am ad-daliadau penodol ac yn codi llog dim ots a ydych chi’n defnyddio’r arian ai peidio.
Hyblygrwydd yw mantais allweddol gorddrafft, ac maen nhw’n dueddol o fod yn gyflym ac yn hawdd eu trefnu.
Ond mae gorddrafftiau’n dod â chyfraddau llog uwch na benthyciadau ar y cyfan, ac os collwch chi daliad, gellir codi ffi arnoch a gallai hynny effeithio ar eich statws credyd.
Mae cyllid cylchol yn debyg i orddrafft, ond nid yw’n gysylltiedig â’ch cyfrif banc.
Mae hynny’n golygu y gallwch ei gael gan nifer o wahanol fenthycwyr.
Yn yr un modd â’r gorddrafft, mae hyblygrwydd yn fantais, ond codir cyfraddau llog a ffioedd uwch am gredyd cylchol na benthyciadau, ac mae’n bosibl y bydd angen i chi roi gwarant bersonol i’w gyrchu.
Cyllid cadwyn gyflenwi
Mae cyllid o’r math yma’n helpu busnesau i reoli eu cyfalaf gweithio. Mae’n cynnwys y cyflenwr yn cael taliad cynnar ar anfoneb gan gwmni ariannu. Wedyn mae’r busnes sydd wedi prynu’r nwyddau neu’r gwasanaeth yn talu’r ariannwr wrth dalu’r anfoneb.
Cyllido asedau
Mae hyn yn caniatáu i fusnes gaffael asedau, disodli hen offer, neu ehangu gweithrediadau heb roi pwysau ychwanegol ar lif arian neu fod angen codi swm sylweddol o gyfalaf gweithio cyn prynu eitem.
I gyrchu’r cyllid, mae busnes yn defnyddio’r asedau ar ei fantolen fel gwarant gyfochrog i ariannu pryniant.
Mae opsiynau cyllido asedau’n cynnwys:
-
Prydles cyllid
Mae darparydd cyllid yn prynu’r ased ac yn ei brydlesu i fusnes. Mae’r prydlesai yn talu ad-daliadau misol. Y prydlesai sy’n atebol am yswirio a chynnal yr ased.
-
Llogi dan gontract
Mae busnesau sy’n prynu fflyd o gerbydau’n defnyddio’r dull hwn yn aml. Mae’n darparu ased yn gyfnewid am daliadau rhent sefydlog dros gyfnod penodol o amser. Y darparydd sy’n gyfrifol am ddod o hyd i’r cerbydau a’u cynnal.
Ar y cyfan, mae cyllid asedau’n hyblyg ac yn gyflym i’w drefnu, ond gellir codi tâl arnoch os byddwch chi’n diffygdalu neu’n penderfynu talu’r benthyciad nôl yn gynnar.
Yn ogystal, gall y benthyciwr atafaelu’r ased rydych chi wedi seilio’ch gwarant arno a’i werthu os byddwch chi’n methu â gwneud eich taliadau. -
Prydles weithredu
Mae busnes yn prydlesu ased dros gyfnod penodol o amser. Gallant uwchraddio i fodel mwy datblygedig yn ystod y cyfnod rhentu. Darparydd y cyllid sy’n atebol am gynnal yr ased.
-
Ail-gyllido asedau
Mae hyn yn rhyddhau arian trwy ddefnyddio asedau sydd eisoes yn eiddo i’ch busnes (fel peiriannau, offer a cherbydau) fel gwarant.
Yn ei hanfod, rydych chi’n trosglwyddo perchnogaeth dros yr ased i’r benthyciwr ond yn parhau i ddefnyddio’r ased, gan ad-dalu’r benthyciwr yn fisol.
Pan fyddwch wedi ad-dalu’r swm a fenthycwyd gan y benthyciwr, gallwch gymryd perchnogaeth dros yr ased.
Dyna pam fod ail-gyllido asedau’n cael ei alw’n ‘gytundeb gwerthu a phrydlesu nôl’ weithiau.
Mae taliadau llog am ail-gyllido asedau’n dueddol o fod yn is nag opsiynau eraill, ac ni fydd sgôr credyd gwael yn broblem fel rheol.
Ond bydd eich ased mewn perygl os na allwch gynnal yr ad-daliadau, a bydd yn ddrytach na defnyddio eich arian parod eich hun.
Dysgwch ragor am ail-gyllido asedau
Taliadau hwyr
Amcangyfrifir fod £23.4 biliwn yn ddyledus i fusnesau’r DU ar ffurf anfonebau hwyr.
Mae hi’n broblem oesol sy’n gallu cael effaith negyddol sylweddol ar lif arian.
Mae cyllid a allai helpu gyda thaliadau hwyr yn cynnwys:
Cyllid anfonebau
Manteisiwch ar werth anfonebau sydd heb eu talu trwy eu defnyddio fel gwarant ar gyfer benthyciadau.
Trwy ffactora anfonebau, mae darparydd y benthyciad yn cynnig hyd at 90% o werth anfoneb ac yn casglu taliad gan y cwsmer cyn talu’r balans minws ffi i’r busnes sydd wedi codi’r benthyciad.
Mae disgowntio anfonebau’n debyg i ffactora, ond chi sy’n cadw rheolaeth ar daliadau’r cwsmer.
Wrth ddefnyddio’r cyllid, byddwch chi’n talu ffi a thâl disgownt (fel llog).
Dim ond busnesau sefydlog sy’n masnachu â busnesau eraill sy’n gallu cyrchu cyllid anfonebau fel rheol.
Os yw hi’n cymryd mwy na 90 diwrnod i gwsmeriaid dalu anfonebau, hwyrach na fydd darparwyr yn cydsynio i’ch cais am y bydd angen iddynt aros yn rhy hir i gael eu harian.
Gallai’r rhestr gyfeirio yma eich helpu i benderfynu a yw cyllid anfonebau’n addas i’ch busnes chi.
Dysgwch ragor am gyllid anfonebau.
Benthyciadau cyfalaf gweithio
Gall benthyciad cyfalaf gweithio ddarparu chwistrelliad o arian i reoli sialensiau o ran llif arian.
Mae angen cyllid cyfochrog ar gyfer benthyciadau sicredig, felly mae’r swm y gallech ei fenthyg yn dibynnu ar yr asedau gallwch eu darparu fel gwarant.
Mae benthyciadau ansicredig ar gael hefyd, ond mae’n debygol y bydd angen i chi roi gwarant bersonol a bydd angen statws credyd da arnoch.
Dysgwch ragor am fenthyciadau cyfalaf gweithio.
Atebion cyllido eraill sy’n gallu amddiffyn llif arian a chyfalaf gweithio:
Prynu Nawr, Talu Wedyn (BNPL)
Mae’r cynlluniau hyn yn caniatáu i gwsmeriaid ohirio talu’n llawn am gynhyrchion neu wasanaethau, sy’n gallu eu hannog nhw i brynu rhywbeth na fyddent wedi gallu ei brynu fel arall.
Os bydd cwsmer yn colli taliad, codir llog arnynt, a ffi tali hwyr hefyd o bosibl.
Codir ffi ar fusnesau am bob trafodiad sy’n cael ei gwblhau.
Mae hyn fel rheol rhwng 2% ac 8% o gyfanswm y gost.
Blaendal arian parod masnachol
Mae blaendaliadau arian parod masnachol (MCA) ar gyfer busnesau sy’n derbyn taliadau cerdyn debyd a chredyd.
Mae benthycwyr yn rhoi swm o arian i fusnes, ac mae’r busnes yn ei ad-dalu wedyn gan ddefnyddio canran o’i werthiannau trwy drafodion â cherdyn, plws ffioedd.
Mae gan MCAs fantais dros fenthyciadau traddodiadol o ran bod modd eu cyrchu heb fod angen darparu asedau, fel eiddo neu stoc fel gwarant.
Fodd bynnag, mae ffioedd a chyfraddau llog MCA yn dueddol o fod yn uwch, ac os na wneir y taliadau, gall busnesau fod mewn perygl o bod yn methu â chlirio eu dyled.
Dysgwch ragor am flaendaliadau arian parod masnachol.
Grantiau
Cyllid a ddarperir gan y sector cyhoeddus a sefydliadau preifat ac nad oes angen ei dalu nôl yw hyn.
Mae cynlluniau grant fel arfer yn canolbwyntio ar ffactorau fel gweithgaredd busnes penodol, cyfnod penodol yn natblygiad y busnes, sector penodol, demograffeg y sylfaenydd a’r lleoliad.
Gellir defnyddio rhai grantiau i ddelio â sialensiau o ran llif arian.
Mae cynlluniau grantiau’n amrywio o ran faint o arian y gallech ei dderbyn.
Caiff rai busnesau’r swm llawn, ond bydd angen i eraill ddarparu cyllid cyfatebol ar gyfer cyfran o werth y grant er mwyn ei dderbyn.
Mae’r prosesau ymgeisio’n gallu bod yn faith ac yn ddwys, a does yna ddim dull o weithredu sydd yr un peth i bawb.
Cyn ymgeisio, mae’n syniad da siarad â darparydd y grantiau i ganfod beth y mae angen ei wneud, ac a ydych chi’n gymwys.
Mae ffynonellau’r grantiau’n cynnwys chwiliwr cyllid y llywodraethr, y gwasanaeth ffeindio chwilio am grantiau, a gwefannau cynghorau lleol.
British Business Bank plc is a development bank wholly owned by HM Government. British Business Bank plc and its subsidiaries are not banking institutions and do not operate as such. They are not authorised or regulated by the Prudential Regulation Authority (PRA) or the Financial Conduct Authority (FCA). A complete legal structure chart for the group can be found at british-business-bank.co.uk.
Whilst we make reasonable efforts to keep the information in this guide up to date, we do not guarantee or warrant (implied or otherwise) that it is current, accurate or complete. The information is intended for general information purposes only and does not take into account your personal situation, nor does it constitute legal, financial, tax or other professional advice. You should always consider whether the information is applicable to your particular circumstances and, where appropriate, seek professional or specialist advice or support.
Gwerth ei wybod
Amcangyfrifir fod £23.4 biliwn yn ddyledus i fusnesau’r DU ar ffurf anfonebau hwyr, ond mae yna atebion o ran cyllid sy’n gallu helpu cwmnïau i fynd i’r afael â’r sialensiau o ran llif arian.
Lawrlwythwch y canllaw
Gallwch lawrlwytho’r canllaw llawn Gwneud i gyllid busnes weithio i chi isod: