Dechrau busnes

Mae dechrau busnes newydd yn aml yn gofyn am gyfalaf – arian i helpu i ymchwilio i’ch syniad busnes, i greu prototeip o’ch cynnyrch, neu i brynu’r offer neu’r peiriannau y bydd eich busnes newydd yn eu defnyddio.

Gall dechrau menter newydd fod yn gyffrous – ond gall fod yn her ariannol i berchnogion busnesau newydd hefyd.

Yn aml, y rhwystr cyntaf sy’n wynebu cyw-entrepreneuriaid yw diogelu’r cyllid angenrheidiol i wireddu eu breuddwyd busnes.

Mae angen cyllid ar fusnesau newydd am nifer o resymau, fel:

  • Ymchwil a datblygu

    Mae hi’n bwysig deall y farchnad a’r darpar-gwsmeriaid. Gellir defnyddio cyllid i gyflawni astudiaethau i’r farchnad, arolygon, a phrofion i’ch helpu chi i gael darlun o ba mor hyfyw yw’ch syniad busnes.

  • Prototeipio

    Ar gyfer busnesau sy’n seiliedig ar gynnyrch, gall creu fersiwn gychwynnol neu brototeip alw am adnoddau sylweddol, o ddeunyddiau i beiriannau, neu hyd yn oed offer datblygu meddalwedd.

  • Rhestr eiddo a stoc

    Gallai fod ar adwerthwyr a gweithgynhyrchwyr angen cyfalaf cychwynnol i brynu stoc neu ddeunyddiau crai er mwyn sicrhau eu bod nhw’n barod i fodloni’r galw gan gwsmeriaid.

  • Costau gweithredu

    Gall costau rhentu lleoliad ffisegol, cyfleustodau, cyflogau cychwynnol staff hanfodol, a sefydlu lle gwaith swyddogaethol alw am fuddsoddiad sylweddol o’r bron.

  • Marchnata a brandio

    Mae meithrin ymwybyddiaeth yn gallu bod yn bwysig i unrhyw fusnes newydd, fel ariannu ymgyrchoedd marchnata, creu hunaniaeth brand, a sefydlu presenoldeb ar-lein.

  • Trwyddedau ac yswiriant

    Gallai fod angen diogelu trwyddedau penodol neu brynu yswiriant hanfodol, fel yswiriant diogelwch bwyd neu atebolrwydd cyhoeddus er mwyn cydymffurfio â rheoliadau.

  • Arian wrth gefn

    Gall rhwyd diogelwch ariannol fod yn werthfawr dros ben os oes sialensiau annisgwyl yn codi wrth ddechrau busnes er mwyn sicrhau nad yw’r coffrau’n mynd yn brin.

Mae llawer o berchnogion busnes newydd yn defnyddio’u cynilion ariannol neu arian gan ffrindiau neu berthnasau.

Gallech chi ymchwilio i ffynonellau cyllid ychwanegol hefyd, a’r enw ar hyn yw cyfalaf sbarduno.

Cyfalaf sbarduno

Cyfalaf sbarduno yw cam cyntaf y cyllid sydd ei angen wrth ddechrau busnes.

Fe’i darperir ar gyfer perchnogion busnes sydd am ddatblygu syniad neu gysyniad busnes cychwynnol.

Fe’i defnyddir ar gyfer gweithgareddau fel cyflawni ymchwil i’r farchnad a chreu prototeipiau neu gynnyrch sylfaenol hyfyw (MVPs).

Daw cyllid sbarduno o gynilion personol perchennog y busnes yn aml, neu gan ffrindiau neu berthnasau.

Dysgwch ragor am gyfalaf sbarduno.

Mae yna wahanol ffynonellau o gyfalaf sbarduno y gallwch eu harchwilio wrth chwilio am gyllid i ddechrau’ch busnes, gan gynnwys angylion buddsoddi, benthyciadau busnes a chyllido torfol.

Angylion Buddsoddi

Benthyciadau Busnes

Cyllido Torfol

Benthyciad Dechrau Busnes

Benthyciad personol, llog isel a gefnogir gan y llywodraeth yw hwn i helpu busnes i ddechrau neu i dyfu.

Gall sylfaenwyr busnesau cymwys yn y DU sy’n dechrau busnes newydd neu sydd wedi bod yn masnachu am llai na 36 mis fenthyg hyd at £25,000, gyda chyfradd llog sefydlog o 6% y flwyddyn. Gall ymgeiswyr llwyddiannus fanteisio ar gwerth 12 mis o fentora am ddim hefyd.

Gall perchnogion busnes sydd eisoes wedi diogelu Benthyciad Dechrau Busnes ac sydd wedi bod yn masnachu am llai na phum mlynedd fod yn gymwys i gael ail fenthyciad.

Dysgwch ragor am Fenthyciadau Dechrau Busnes.

Cyllid dyled

Dyma lle mae busnes yn benthyg swm o arian neu’n prynu ased gyda chyllid a gaiff ei dalu nôl, gyda llog, dros gyfnod penodol o amser.

Dyma rai mathau cyffredin o gyllid dyled:

Benthyciadau

Mae amrywiaeth o ddarparwyr yn cynnig benthyciadau busnes – o fanciau’r stryd fawr i fenthycwyr busnes arbenigol - a gallant fod yn sicredig neu’n ansicredig.

  • Mae benthyciadau sicredig yn defnyddio asedau sy’n eiddo i’ch busnes – fel adeiladau neu beiriannau a stoc, fel gwarant.
  • Gellir codi benthyciadau ansicredig heb ddefnyddio unrhyw asedau fel gwarant. Fel rheol felly, mae’r cyfraddau llog yn uwch ar gyfer benthyciadau ansicredig na benthyciadau sicredig am fod mwy o risg ynghlwm wrthynt na benthyciadau sicredig.

Mae benthycwyr yn tueddu i chwilio am fusnesau â hanes o fasnachu a phrofiad llwyddiannus.

Mae hynny’n golygu bod busnesau newydd sydd ar gyfnod cynnar yn gallu ei chael hi’n anodd cael benthyciad.

Os felly, gallai sylfaenydd cwmni newydd ystyried Benthyciad Dechrau Busnes sy’n gallu bod yn addas ar gyfer busnesau sydd wedi cael eu gwrthod am gyllid arall.

Mae yna rai benthycwyr, fel Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol (CDFIs), sy’n ystyried ceisiadau gan fusnesau ag asedau, hanes masnachu neu brofiad cyfyngedig.

Dysgwch ragor am Fenthyciadau Dechrau Busnes

Gorddrafftiau

Math o gredyd ar gyfrif banc eich busnes sy’n darparu mwy o gyllid byrdymor na’r cyfalaf sydd gan eich busnes ar y pryd yw gorddrafft.

Yn wahanol i fenthyciad, sydd â ffi ad-dalu sefydlog, dim ond ar swm eich dyled gorddrafft y byddwch chi’n talu llog.

Ond bydd y banc yn codi ffi am drefnu’r gorddrafft fel rheol, ac os byddwch chi’n hwyr neu’n colli ad-daliad, bydd y banc yn codi ffi arnoch a gallai hynny effeithio ar eich statws credyd.

Fel rheol, codir cyfraddau llog uwch am orddrafftiau na benthyciadau busnes.

Dysgwch ragor am orddrafftiau.

Cyllid Ecwiti

Angylion buddsoddi

Entrepreneuriaid sefydledig neu bobl â phrofiad busnes helaeth yw angylion buddsoddi fel rheol. Maen nhw’n defnyddio eu harian eu hunain yn gyfnewid am fuddran ecwiti yn eich busnes.

Mae hynny’n golygu, yn gyfnewid am fuddsoddi eu harian yn eich busnes newydd, y byddan nhw’n berchen ar ganran o’r busnes.

Yn ogystal â chyllid, gall angylion buddsoddi ddarparu arweiniad busnes gwerthfawr ac agor y drws ar rwydwaith o gysylltiadau a all fod yn werthfawr dros ben.

Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angylion buddsoddi am gael rhywfaint o fewnbwn i benderfyniadau’r busnes, sy’n gallu cyfaddawdu ymreolaeth y sylfaenydd a gallai hynny olygu bod yna syniadau croes am sut i ddechrau’r busnes.

Mae’r Cynllun Buddsoddi Cychwynnol mewn Mentrau (SEIS) yn cynnig cymhellion rhyddhad treth i angylion buddsoddi er mwyn hyrwyddo buddsoddi mewn busnesau llai.

Mae gan yr Hyb Cyllid restr gyfeirio oo’r camau y gallech eu hystyried er mwyn paratoi eich busnes ar gyfer angylion buddsoddi a lle gallwch ddysgu rhagor amdanynt a’r manteision posibl i’ch busnes newydd.

Ecwiti cyllido torfol

I wneud hyn, mae angen rhestru eich busnes ar blatfform ar lein sy’n caniatáu i fuddsoddwyr ac aelodau o’r cyhoedd brynu cyfrannau yn eich busnes.

Mae yna nifer o blatfformau ecwiti cyllido torfol.

Maen nhw’n caniatáu i chi gyrraedd pobl na fyddai’n ymwybodol o’ch busnes fel arall efallai, ond ni ellir gwarantu llwyddiant, ac mae’r platfformau’n aml yn codi ffioedd llwyddo a rhestru.

Mae’r Cynllun Buddsoddi mewn Mentrau a’r Cynllun Buddsoddi Cychwynnol mewn Mentrau (SEIS) yn cynnig cymelldaliadau rhyddhad trethi i fuddsoddwyr cyllido torfol.

Dysgwch ragor am ecwiti cyllido torfol.

Cyllid mesanîn

Math hybrid o gyllid yw hwn sy’n gyfuniad o gyllid dyled ac ecwiti.

Mae ariannwr yn cynnig benthyciad busnes, ac mae’r busnes yn cytuno i’w ad-dalu â llog.

Ond os nad yw’r busnes yn gallu gwneud yr ad-daliadau, gellir trosi’r ddyled yn gyfrannau yn y cwmni.

British Business Bank plc is a development bank wholly owned by HM Government. British Business Bank plc and its subsidiaries are not banking institutions and do not operate as such. They are not authorised or regulated by the Prudential Regulation Authority (PRA) or the Financial Conduct Authority (FCA). A complete legal structure chart for the group can be found at british-business-bank.co.uk.

Whilst we make reasonable efforts to keep the information in this guide up to date, we do not guarantee or warrant (implied or otherwise) that it is current, accurate or complete. The information is intended for general information purposes only and does not take into account your personal situation, nor does it constitute legal, financial, tax or other professional advice. You should always consider whether the information is applicable to your particular circumstances and, where appropriate, seek professional or specialist advice or support.

Gwerth ei wybod

Mae Benthyciadau Dechrau Busnes yn cynnig benthyciadau personol llog isel o hyd at £25,000 wedi eu cefnogi gan y llywodraeth i helpu sylfaenwyr i ddechrau neu dyfu eu busnes.

Lawrlwythwch y canllaw

Gallwch lawrlwytho’r canllaw llawn Gwneud i gyllid busnes weithio i chi isod:

Lawrlwythwch canllaw (.PDF, 8.97mb) Making business finance work for you - Expanded edition (Opens in new window)

Your previously read articles