Beth yw’r sialensiau wrth dyfu busnes?
Boed hi’n fater o agor lleoliad newydd, ehangu eich cynnyrch, neu gynyddu’ch capasiti cynhyrchu, mae angen cyfalaf i dyfu.
Mae’r mathau o sialensiau sy’n gallu sbarduno’r angen am gyllid ychwanegol yn cynnwys:
Ehangu
Boed hi’n fater o agor cangen newydd, symud i swyddfa fwy, neu sefydlu storfeydd, gall gweithrediadau ehangu graddfa olygu ehangu seilwaith ffisegol y busnes.
Cyflogi
Gallai recriwtio unigolion medrus, o’r rolau rheoli uchaf i staff y rheng flaen, olygu gwariant sylweddol.
Cynhyrchu
Gall ehangu olygu cynhyrchu mwy, sy’n golygu bod angen mwy o ddeunyddiau crai, peiriannau neu hyd yn oed cyfleusterau cynhyrchu mwy o faint.
R&D
Gallech sianelu cyllid i R&D er mwyn gwella cynnyrch, gwasanaethau neu ddatblygu darpariaeth newydd sy’n bodloni gofynion esblygol y farchnad.
Marchnadoedd newydd
Gall fod angen gwaith ymchwil ychwanegol cyn mentro i ardaloedd daearyddol neu segmentau demograffaidd newydd.
Technoleg
Gallai buddsoddiadau mewn technoleg fwyhau gweithrediadau, gwella profiadau cwsmeriaid, a symleiddio prosesau, ond gallent fod yn gostus hefyd.
Risg
Wrth i raddfa eich gweithrediadau gynyddu, bydd cwmpas y risgiau posibl yn cynyddu hefyd – mae cyllid yn gallu gweithredu fel rhwyd diogelwch, gan helpu busnesau i ffeindio’u ffordd trwy sialensiau annisgwyl.
Mae’r cynnyrch cyllido sy’n gallu talu am y costau hyn yn cynnwys:
Cynnig Cyhoeddus Cychwynnol (IPO)
IPO yw pan fo cwmni’n cynnig cyfran o’i gyfrannau i’r cyhoedd am y tro cyntaf.
Busnesau sefydlog sy’n cyflawni IPOs fel rheol, a gallant fynd o fod ym mherchnogaeth breifat nifer gyfyngedig o fuddsoddwyr i fod â chyfrannau sydd ar gael i’w prynu gan y cyhoedd ar led a rhestru ar gyfnewidfa stoc.
Er bod IPOs yn aml yn gysylltiedig â busnesau mawr a sefydlog, gall busnesau llai, mwy newydd sydd â refeniw is, ond sydd â photensial sylweddol ar gyfer twf neu eiddo deallusol (IP) unigryw ddenu buddsoddwyr gan ddefnyddio’r dull hwn hefyd.
Yn y DU, AIM yw’r farchnad ar gyfer IOPs gan fusnesau llai sy’n tyfu sydd â’u golygon ar ehangu.
Am gyngor pellach, darllenwch y canllaw i wybod a yw’ch busnes yn barod ar gyfer IPO a’r rhestr gyfeirio ar gyfer IPOs.
Buddsoddiad Ecwiti
Mae’r cyllid o’r math yma’n cynnwys diogelu cyllid gan fuddsoddwyr allanol yn gyfnewid am gyfran yn eich busnes.
Mae yna sawl lefel o fuddsoddiad ecwiti sydd wedi eu teilwra at wahanol gyfnodau yn nhwf busnes. Ar ôl y camau cyn-sbarduno a sbarduno pan fo busnes yn lansio’n gyntaf, gall cwmnïau sydd am ehangu graddfa fynd trwy gylchoedd ariannu a elwir yn gyfresi A, B a C.
-
Cyfres A
Cwmnïau cyfalaf menter, archangylion buddsoddi a buddsoddwyr sefydliadol sy’n darparu cyllid Cyfres A.
Entrepreneuriaid neu unigolion â phrofiad busnes helaeth sy’n buddsoddi eu harian eu hunain mewn busnesau newydd ar gyfnod cynnar yn gyfnewid am ecwiti yw angylion buddsoddi.
Mae cwmnïau cyfalaf menter yn defnyddio arian sy’n eiddo i sefydliadau mawr fel cronfeydd pensiwn, ac am fod angen iddynt wneud elw sylweddol ar eu buddsoddiadau, ar y cyfan maent yn gofyn am gyfran uwch yn gyfnewid. -
Cyfres B
Cyfalafwyr menter a chwmnïau ecwiti preifat (PE) sy’n darparu cyllid Cyfres B.
Mae cwmnïau PE yn codi cyfalaf gan fuddsoddwyr sefydliadol fel cronfeydd pensiwn a chwmnïau yswiriant ac yn ei ddefnyddio i greu cronfeydd i’w buddsoddi mewn busnesau. -
Cyfres C
Cwmnïau cyfalaf menter, sef cwmnïau ecwiti preifat a buddsoddwyr corfforaethol, sy’n darparu cyllid Cyfres C.
Grantiau
Cyllid a ddarperir gan sefydliadau’r sector cyhoeddus neu breifat nad oes angen ei ad-dalu yw hwn.
Mae cynlluniau grant fel arfer yn canolbwyntio ar ffactorau fel maes gweithgarwch penodol, cam datblygu, sector, demograffeg a lleoliad sefydlu’r busnes.
Mae cynlluniau grant yn amrywio o ran faint o arian gewch chi. I rai, fe gewch chi’r swm llawn, ond i eraill, bydd angen i chi ddarparu cyllid cyfatebol ar gyfer cyfran o werth eich grant cyn y cewch geiniog.
Mae prosesau ymgeisio’n gallu bod yn faith ac yn ddwys, ac nid oes yna’r un dull cyffredin sy’n addas i bawb. Cyn ymgeisio, mae’n syniad da siarad â darparydd y grant er mwyn canfod beth y mae angen ei wneud, ac a ydych chi’n gymwys.
Mae ffynonellau grantiau’n cynnwys chwiliwr cyllid y llywodraeth, gwasanaeth chwilio grantiau’r llywodraeth, a gwefannau cynghorau lleol.
Cyllid dyled
Dyma lle mae busnes yn benthyg swm o arian neu ased gyda chyllid sy’n cael ei dalu nôl â llog dros gyfnod penodol o amser. Mae mathau cyffredin o gyllid dyled yn cynnwys:
Benthyciadau
Gall y rhain fod yn sicredig sy’n defnyddio ased (fel eiddo) o’ch mantolen fel gwarant, neu’n ansicredig sef benthyg heb ddefnyddio unrhyw asedau busnes fel gwarant.
Yn achos benthyciadau ansicredig, yn aml mae angen darparu gwarant bersonol sy’n dweud y byddwch chi’n ad-dalu’r benthyciad yn bersonol os na all y busnes ei ad-dalu.
O ganlyniad mae’r cyfraddau llog yn dueddol o fod yn uwch ar gyfer benthyciadau ansicredig na benthyciadau sicredig.
Gorddrafftiau
Math o gredyd ar eich cyfrif banc busnes sy’n darparu mwy o gyllid byrdymor na’r cyfalaf sydd gan eich busnes ar y pryd yw gorddrafft.
Yn wahanol i fenthyciad, sydd â ffi ad-dalu sefydlog, dim ond ar swm eich dyled gorddrafft y byddwch chi’n talu llog.
Ond gall y banc godi ffi trefnu arnoch, ac os byddwch chi’n hwyr yn talu neu’n colli ad-daliad, bydd y banc yn codi ffi a allai effeithio ar eich statws credyd.
Fel rheol, codir cyfraddau llog uwch am orddrafftiau na benthyciadau busnes.
British Business Bank plc is a development bank wholly owned by HM Government. British Business Bank plc and its subsidiaries are not banking institutions and do not operate as such. They are not authorised or regulated by the Prudential Regulation Authority (PRA) or the Financial Conduct Authority (FCA). A complete legal structure chart for the group can be found at british-business-bank.co.uk.
Whilst we make reasonable efforts to keep the information in this guide up to date, we do not guarantee or warrant (implied or otherwise) that it is current, accurate or complete. The information is intended for general information purposes only and does not take into account your personal situation, nor does it constitute legal, financial, tax or other professional advice. You should always consider whether the information is applicable to your particular circumstances and, where appropriate, seek professional or specialist advice or support.
Gwerth ei wybod
I fusnesau sydd am ehangu, gall buddsoddiad ecwiti yrru twf. Ar ôl y cyfnodau cyn-sbarduno a sbarduno ar ôl i’r busnes lansio’n wreiddiol, mae cwmnïau sy’n tyfu’n mynd trwy gylchoedd ariannu pellach o’r enw cyfresi A, B ac C.
Lawrlwythwch y canllaw
Gallwch lawrlwytho’r canllaw llawn Gwneud i gyllid busnes weithio i chi isod: