Pa opsiynau sydd ar gael i chi os yw’ch cais am fenthyciad wedi cael ei wrthod

Mae hi’n brofiad annifyr os yw’r banc yn gwrthod eich cais am fenthyciad busnes, ond mae yna fathau eraill o gyllid ar gael i’ch busnes heblaw am y benthyciadau sy’n cael eu cynnig gan fanciau’r stryd fawr.

Os yw’ch cais am fenthyciad busnes wedi cael ei wrthod, mae’n bwysig deall pam fod hyn wedi digwydd, am y bydd hyn yn llywio’r opsiynau eraill sydd ar gael i chi i ddiogelu cyllid ar gyfer eich busnes.

Mae’r rhesymau cyffredin dros wrthod cais am fenthyciad busnes yn cynnwys:

  • statws credyd isel 
  • dim digon o sicrwydd ar gyfer y benthyciad 
  • cynllun busnes a rhagolygon ariannol gwan gan gynnwys llif arian 
  • diffyg archwaeth o du’r benthycwr o ran y sector penodol y mae eich busnes yn gweithredu oddi mewn iddo. 

Cyllid dyled

Hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich gwrthod am fenthyciad busnes gan fanc, mae’n bosibl y gallwch ddiogelu cyllid dyled gan ddarparwr cyllid arall o hyd.

Rhowch gynnig ar fenthycwr arall

Mae gan holl fanciau’r stryd fawr feini prawf benthyca gwahanol wrth asesu ceisiadau.

Felly, nid yw’r ffaith fod un banc wedi gwrthod eich cais o reidrwydd yn golygu y bydd banc arall yn gwrthod hefyd. 

Icon depicting a series of business associated buildings, i.e. shops and offices

Mewn llawer o achosion, nid yw gwrthod cais am fenthyciad yn gysylltiedig â hyfywedd y busnes, yn hytrach mae hi o ganlyniad i ffactorau eraill, fel y ffaith fod gan y banc nifer benodol o gwsmeriaid yn gweithredu yn eich sector eisoes, a’u bod felly am osgoi cynyddu eu datguddiad yn y maes yma.

Yn ei hanfod, ni ddylai perchnogion busnes roi’r ffidil yn y to os yw eu cais cyntaf am fenthyciad yn cael ei wrthod, yn enwedig os nad yw’n amlwg yn syth pam y gwrthodwyd y cais. Gallai’r rheswm ymwneud yn fwy â’r banc ei hun na’ch busnes chi.

Y Cynllun Atgyfeirio i Fanciau

Lansiwyd y Cynllun Atgyfeirio i Fanciau ym mis Tachwedd 2016, a’i nod yw ei gwneud hi’n haws i fusnesau llai gael cyllid.

Mae’r cynllun cyfeirio’n gofyn bod y banciau sy’n cymryd rhan yn cynnig atgyfeiriad at blatfform cyllid ar lein os ydyn nhw’n gwrthod cais am gyllid gan fusnes.

Gall y platfformau hyn gysylltu busnesau llai â darparwyr cyllid amgen a all fod mewn sefyllfa i ddarparu’r cyllid angenrheidiol.

Nod y Cynllun Atgyfeirio Banciau yw sicrhau bod busnesau hyfyw, er nad ydynt yn bodloni meini prawf risg banciau traddodiadol o bosibl, yn gallu cyrchu’r adnoddau ariannol sydd eu hangen arnynt i dyfu a llwyddo.

Dysgwch ragor am y Cynllun Atgyfeirio i Fanciau.

Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol

Benthycwr nid-er-elw yw Sefydliad Cyllid Datblygu Cymunedol (CDFI) sy’n cynnig benthyciadau a chymorth i fusnesau gan ddefnyddio dull o weithredu lle mae’r ffocws ar feithrin perthynas.

Mae hyn yn caniatáu i CDFI edrych y tu hwnt i fantolen wan neu hanes credyd gwael i hanfodion y busnes a’r bobl sydd y tu ôl iddo.

Pan gymrwch chi fenthyciad gan CDFI, bydd angen ei ad-dalu â llog ac unrhyw ffioedd y cytunwyd arnynt dros gyfnod penodol.

Fel rheol, mae CDFI yn benthyca symiau sy’n amrywio o £25,000 i £250,000.

Fodd bynnag, mae rhai yn cynnig benthyciadau sy’n dechrau o £1,000 ac sy’n mynd y tu hwnt i £250,000.

Dysgwch ragor am Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol.
 

Benthyciad Dechrau Busnes

Os yw eich busnes yn llai na thair mlwydd oed, gallech fod yn gymwys i gael Benthyciad Dechrau Busnes.

Mae llawer o fusnesau newydd yn cael eu gwrthod gan fenthycwyr traddodiadol am resymau fel diffyg hanes, dim digon o asedau busnes i ddarparu gwarant gyfochrog, neu am nad ydynt yn broffidiol eto.

Icon depicting a waiter serving drinks to two people sat at a table

Mae Benthyciad Dechrau Busnes yn wahanol i fenthyciad banc traddodiadol am ei fod yn fenthyciad personol a fwriedir at ddefnydd busnes. 

Nid yw’n cael ei sicrhau chwaith, sy’n golygu nad oes rhaid i fenthycwyr ddarparu asedau personol, fel eu cartref, fel sicrhad. 

Gall unigolion cymwys ddiogelu benthyciadau am symiau rhwng £500 a £25,000, dan delerau ad-dalu o rhwng un a phum mlynedd.

Mae’r benthyciadau hyn yn dod â chyfradd llog sefydlog o 6% y flwyddyn, sy’n cynnig cysondeb o ran y cynlluniau ad-dalu.

Mae’r ymgeiswyr yn cael arweiniad personol ar bob cam yn y broses, ac yn cael eu paru ag ymgynghorydd busnes pwrpasol i gynyddu’r tebygolrwydd o lwyddo.

Yn ogystal, gall y rhai sy’n derbyn y benthyciadau hyn fanteisio ar 12 mis o fentora am ddim sy’n darparu cymorth ac arweiniad hanfodol parhaus yn ystod cyfnodau cynnar hanfodol datblygu’r busnes.

Dysgwch ragor am Fenthyciadau Dechrau Busnes.

Benthyca cymar wrth gymar

Mae benthyca cymar wrth gymar (P2P) yn cysylltu’r rhai sydd am fenthyg â benthycwyr trwy blatfformau ar lein neu froceriaid all-lein.

I ymgeisio, bydd angen i chi lenwi ffurflen ar lein a darparu manylion ynghylch sut y bydd eich busnes yn defnyddio’r benthyciad, faint rydych am ei fenthyg, a dros ba gyfnod rydych am ad-dalu’r arian, ynghyd ag ychydig o fanylion penodol am eich busnes.

Wedyn bydd y platfform yn eich paru â benthycwyr addas.

Mae rhai platfformau P2P yn gallu cynnig penderfyniadau yn y fan a’r lle fwy neu lai, sy’n caniatáu i chi dderbyn y benthyciad o fewn ychydig ddyddiau.

Ar ôl cael cydsyniad, mae’n bosibl y bydd angen talu ffi trefnu i’r platfform P2P.

Caiff y benthyciad ei ad-dalu â llog mewn rhandaliadau rheolaidd dros gyfnod y cytundeb benthyg wedyn.

Dysgwch ragor am fenthyca cymar wrth gymar.

Cyllid ecwiti

Yn ogystal â chyllid dyledion, gallai fod yn syniad archwilio gwahanol fathau o gyllid ecwiti i gynhyrchu cyfalaf.

Icon depicting a briefcase with a plus symbol overlaid

Angel fuddsoddwyr

Angel fuddsoddwr yw unigolyn sy’n buddsoddi ei gronfeydd personol mewn busnes bach yn gyfnewid am gyfran ecwiti lleiafsymiol yn y busnes, sydd fel arfer rhwng 10% a 25%.

Yn aml, mae gan y buddsoddwyr hyn gefndir fel entrepreneuriaid neu mae ganddynt brofiad helaeth yn y byd busnes.

Mae angylion buddsoddi am fwy na dim ond cymorth ariannol.

Mae’r buddsoddwyr yn darparu mentora ac arweiniad, gan ganiatáu i fusnesau elwa ar eu hamser, sgiliau, cysylltiadau a’u synnwyr busnes. Maen nhw’n mabwysiadu dull ymarferol o weithredu, gan gydweithio â’r entrepreneur yn rheolaidd i yrru’r busnes yn ei flaen.

Mae’r berthynas rhwng yr angel fuddsoddwr a’r entrepreneur yn allweddol, am eu bod nhw’n aml yn cydweithio’n agos am o leiaf bum mlynedd.

Fel arfer, mae angel fuddsoddwyr yn buddsoddi symiau rhwng £5,000 a £500,000 mewn un busnes, yn dibynnu ar anghenion penodol a photensial y fenter i dyfu.

Dysgwch ragor am Angel Fuddsoddwyr.

Icon depicting a starred file/document

Cyllid ecwiti torfol

Mae cyllid ecwiti torfol yn cynnig dull rheoledig i fusnesau godi arian gan nifer o fuddsoddwyr

Trwy restru ar blatfform ar lein, gall buddsoddwyr a’r cyhoedd ar led brynu cyfrannau yn eich busnes.

Cyn caniatáu i chi restru, bydd y platfform cyllid ecwiti torfol yn gwerthuso eich busnes a’ch dogfennaeth er mwyn sicrhau eu bod nhw’n bodloni safonau’r platfform.

Gall rhai platfformau eich helpu chi i bennu amserlen briodol a swm buddsoddi i’w geisio hefyd.

Mae hi’n bwysig nodi nad pob platfform cyllido torfol sy’n cynnig yr un gwasanaethau.

Mae rhai yn rheoli cysylltiadau â chyfranddalwyr, mae eraill yn cynnig arweiniad busnes.

Mae hi’n hanfodol felly trafod gwasanaethau ac arbenigeddau penodol pob un cyn ymrwymo i blatfform.

Dysgwch ragor am Gyllid ecwiti torfol.

British Business Bank plc is a development bank wholly owned by HM Government. British Business Bank plc and its subsidiaries are not banking institutions and do not operate as such. They are not authorised or regulated by the Prudential Regulation Authority (PRA) or the Financial Conduct Authority (FCA). A complete legal structure chart for the group can be found at british-business-bank.co.uk.

Whilst we make reasonable efforts to keep the information in this guide up to date, we do not guarantee or warrant (implied or otherwise) that it is current, accurate or complete. The information is intended for general information purposes only and does not take into account your personal situation, nor does it constitute legal, financial, tax or other professional advice. You should always consider whether the information is applicable to your particular circumstances and, where appropriate, seek professional or specialist advice or support.

Lawrlwythwch y canllaw

Gallwch lawrlwytho’r canllaw llawn Gwneud i gyllid busnes weithio i chi isod:

Lawrlwythwch canllaw (.PDF, 8.97mb) Making business finance work for you - Expanded edition (Opens in new window)

Your previously read articles